Pwdinau

Afalau Creisionllyd Pob Amser paratoi 15 munud Amser Oeri 30 munud – Oedolion 4-6 / Blant 12

Cynhwysion

5 afal coginio mawr, wedi’u plicio a’u torri yn dafellau (gallwch ddefnyddio afalau bwyta i gael blas mwy melys)

3 llwy fwrdd o ddwr

150g / 5oz o greision yd, wedi’u malu

50g / 2 owns o siwgwr man

1 1/2 llwy de o sinamon

40g / 1 1/2 owns o farfarin (wedi’i doddi mewn microdon, gwiriwch bob 10 eiliad)

Dull – Twymwch y popty i 150oC / Nwy Marc 2

  • Rhowch y tafellau afal, siwgwr a dwr mewn dysgl sy’n addas i’r ficrodon. Meddalwch nhw yn y ficrodon am 6 munud
  • Cymysgwch y creision yd wedi’u malu a’r sinamon i mewn i’r margarin wedi’i doddi
  • Ysgeintiwch y cymysgedd creision yd dros yr afalau. Pobwch yn y popty am 30 munud

Rysetiau Adref http://www.ysgolawelymynydd.co.uk/dewch-i-goginio-rysetiau/